Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Chwefror 2022
Amser:
09.30 -
11.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12723
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Anna Adams, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru Andrew Hewitt, Trysorlys Cymru, Llywodraeth Cymru Lynsey Edwards, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Rhag-gyfarfod preifat – anffurfiol (09:15-09:30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod hybrid y Pwyllgor Cyllid.
2 Papurau i'w nodi
2.1. Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwybodaeth bellach yn dilyn trafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys; a Gweinidogion Cyllid y Llywodraethau Datganoledig - 11 Chwefror 2022
3 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): Sesiwn dystiolaeth 6
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru; Andrew Hewitt, Pennaeth Deddfwriaeth Trethi, Trysorlys Cymru; a Lynsey Edwards, Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu).
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pwer i Addasu): Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.